Senedd Cymru | Welsh Parliament

 

 

COFNODION

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant a Theuluoedd

9 Tachwedd 2022, rhwng 11:00 a 12:00

 

1.      Croeso a chyflwyniadau

Croesawodd Jane Dodds AS bawb i'r cyfarfod, gan ddiolch iddynt am eu diddordeb mewn bod yn rhan o’r grŵp hwn.  Cadarnhaodd fod y cynllun gwaith ar gyfer y ddwy flynedd nesaf wedi cael ei ddiwygio yn ddiweddar, ac y byddai copi ohono yn cael ei ddosbarthu gyda chofnodion y cyfarfod hwn.

 

 

2.      Ymddiheuriadau

 

Peredur Owen Griffiths AS

Llyr Gruffydd AS

Delyth Jewell AS

Sarah Murphy AS

Sharon Lovell, Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Cymru (NYAS Cymru)

Gethin Matthews-Jones, Y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant

Andrea Gordon, Cŵn Tywys Cymru

Cecile Gwilym, NSPCC Cymru

Patrick Thomas, Ymddiriedolwr, Plant yng Nghymru

 

 

3.      Comisiynydd Plant Cymru – blaenoriaethau ar gyfer y tymor nesaf, a sesiwn holi ac ateb

 

Croesawodd Jane Dodds Rocio Cifuentes i’r cyfarfod, gan ddiolch iddi am roi o’i hamser.

 

Dechreuodd Rocio drwy ddarparu ychydig o wybodaeth gefndir ynghylch ei rolau blaenorol, lle bu'n athrawes yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag anableddau ac unigolion o grwpiau lleiafrifoedd ethnig.  Yna, rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y bu’n canolbwyntio arno yn ystod ei chwe mis cyntaf fel Comisiynydd, gan gynnwys:

 

·         Mynd i’r afael â’r holl faterion gwahanol sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru ar hyn o bryd

·         Dysgu am yr holl sefydliadau sy’n bodoli i’w cefnogi a’r pwysau y maent yn eu hwynebu

·         Teithio’n eang ledled Cymru i ymweld ag awdurdodau lleol, ysgolion, grwpiau ieuenctid, hosbisau, ysbyty iechyd meddwl, uned ddiogel a gŵyl yr Urdd

·         Cydnabod y pwysau sydd ar y gweithlu a sut mae recriwtio a chadw staff yn broblem enfawr yng Nghymru, a hynny mewn perthynas ag athrawon, ymarferwyr iechyd meddwl, gweithwyr gofal cymdeithasol ac eraill

·         Deall gwir raddfa’r pandemig, tlodi plant a'r argyfwng costau byw

Cadarnhaodd Rocio mai’r ddau bwynt bwled olaf a restrir uchod fyddai ei phrif feysydd blaenoriaeth, gan nodi y bydd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau newid.

 

Bydd hyrwyddo a chodi proffil ei rôl hi a rôl ei thîm ymhlith rhanddeiliaid ac ymhlith plant a phobl ifanc eu hunain yn faes ffocws arall.  Ar hyn o bryd, mae’r tîm yn cynnwys 23 o bobl, ac mae eu cyfrifoldebau yn cynnwys:

 

·         Diogelu a hyrwyddo hawliau plant a gorfodi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

·         Cefnogi a chynghori plant a phobl ifanc mewn perthynas â’u problemau

·         Dylanwadu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau

·         Siarad ar ran plant a phobl ifanc Cymru

 

Mae tri thîm yn bodoli ar hyn o bryd, sef:

 

Y Tîm Cyfranogiad

Yn bennaf, gweithwyr ieuenctid sy'n ymgymryd â gweithgareddau ymgysylltu uniongyrchol â phlant a phobl ifanc

 

Y Tîm Ymchwilio a Chynghori

Tîm sy’n darparu llinell gymorth a gwasanaeth gwybodaeth i gefnogi plant nad ydynt, o bosibl, yn manteisio ar eu hawliau.  Mae aelodau’r tîm hefyd yn adolygu swyddogaethau’r Llywodraeth

 

Y Tîm Polisi

Tîm sy’n craffu ar bolisi’r Llywodraeth ac yn cynnig cymorth o ran sut y gellir ei wella

 

Mae Rocio yn bwriadu gweithio ar yr amrywiaeth o randdeiliaid sy'n ymwneud â'i swyddfa ar hyn o bryd, gan wneud cysylltiadau cryfach a meithrin cysylltiadau newydd. Yn ogystal, cadarnhaodd ei dymuniad i weithio'n agosach â’r grŵp trawsbleidiol hwn er mwyn cryfhau llais y plentyn.


Ar y pwynt hwn, soniodd Jane Dodds am y grŵp trawsbleidiol arall ar gyfer plant mewn gofal, a gefnogir gan Voices from Care Cymru, a chytunodd i ddarparu cynllun gwaith i Rocio ar gyfer y grŵp hwnnw hefyd.

 

Diolchodd Jane Dodds i Rocio am ei chyflwyniad ac agorodd y llawr i gwestiynau.

 

Cwestiwn –

Jane Dodds: Beth fyddwch chi, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, yn ei wneud i helpu plant a phobl ifanc mewn tlodi?

 

Soniodd Rocio ei bod hi a’i chymheiriaid yng ngwledydd eraill y DU wedi cyhoeddi datganiadau ar y cyd ynghylch tlodi plant. Dywedodd ei bod yn disgwyl i Lywodraeth Cymru wneud llawer mwy i liniaru’r problemau cysylltiedig.  Mae hi wedi galw’n ffurfiol am lunio cynllun gweithredu newydd ar dlodi plant, sef cynllun a fydd yn hawdd ei ddeall a’i fesur. Mae Archwilio Cymru hefyd wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am wybodaeth am sut mae'r cyllid yn cael ei wario.  Dywedodd Rocio ei bod yn cefnogi’r mesurau brys sy'n cael eu rhoi ar waith, ond nododd fod angen cynllun gweithredu clir.

 

 

 

 

Cwestiwn –

Mark Carter, Barnardo’s Cymru: Ein prif bryder yw effaith cyni ar wasanaethau hanfodol. Sut y bydd modd inni weithio ar y cyd a sicrhau bod plant yn cael eu diogelu?

 

Cytunodd Rocio fod angen mwy o amddiffyniad ar blant a bod angen cydnabod a gwerthfawrogi rôl y sector gwirfoddol yng Nghymru yn fwy.

 

Viv Laing, NSPCC Cymru: Yn sgil llofruddiaeth drasig Logan Mwangi ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Ebrill, mae angen trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol plant mewn modd radical.  Beth fyddwch chi’n gofyn i Lywodraeth Cymru ei wneud am hyn?

 

Cadarnhaodd Rocio ei bod yn bosibl y bydd adolygiad o ofal cymdeithasol yn cael ei gynnal yng Nghymru, ac y bydd cais yn cael ei wneud am gynllun gwaith gan Lywodraeth Cymru, sy’n nodi sut y mae’n bwriadu trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer plant.  Cadarnhaodd fod y cyhoedd yn haeddu hyn, ac y byddai'n mynd ar drywydd rhagor o fanylion am amserlenni a map ffordd.  Mae'n cwrdd yn rheolaidd â Phrif Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar hyn o bryd.

 

Ar y pwynt hwn, cadarnhaodd Jane Dodds ei bod hithau hefyd yn gofyn am adolygiad llawn o wasanaethau plant a threfniadau diogelu plant ledled Cymru. Gan nad oes tystiolaeth gyfredol o unrhyw arfer da, mae angen mynd i'r afael â hyn.

 

Cwestiwn –

Sarah Thomas, Rhwydwaith Maethu Cymru: Mae’r pwysau ar ein gweithlu gofal cymdeithasol wedi cyrraedd uchafbwynt erbyn hyn. Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn cynnig gwahanol gyflogau a thelerau ac amodau, ac mae boddhad swydd ar ei lefel isaf erioed.  Mae gweithwyr cymdeithasol yn gadael eu rolau, ac mae staff asiantaeth yn cael eu defnyddio, er eu bod yn hawlio cyflogau llawer uwch. Mae’r sefyllfa hon yn cael effaith enfawr ar wasanaethau maethu.

 

Yn ôl Rocio, ymddengys fod awdurdodau lleol yn amddiffynnol iawn ynglŷn â’r mater hwn, ac ymddengys hefyd nad oes neb yn cyfarwyddo nac yn rheoli eu hallbynnau.  Felly, mae asiantaethau allanol yn manteisio ar yr aneffeithlonrwydd hwnnw.  Mae diffyg cyfeiriad yn y maes hwn.

 

Gofynnodd Jane Dodds i Sarah a fyddai’n fodlon gwneud nodyn o’r materion y mae ei sector yn eu hwynebu, gan nodi y byddai modd rhannu’r manylion hyn â’r grŵp.

 

Cwestiwn –

Bethan Webber, Home Start Cymru: Fel y gwnaeth aelodau eraill o’r grŵp yn flaenorol, soniodd Bethan am y materion sydd wedi dod i’r amlwg parthed gwasanaethau ymyrraeth gynnar a’r gweithlu.  Mae angen ystyried y gweithlu rhianta a gwirfoddoli hefyd. Yn ogystal, mae angen rhoi terfyn ar sefyllfaoedd lle mae sefydliadau sector preifat yn elwa ar gyfleoedd i ddarparu cyfleusterau gofal.  Beth fyddwch chi'n ei wneud i fynd i'r afael â’r mater hwn?

 

Cadarnhaodd Rocio fod angen i bawb fod yn ymwybodol o’r materion hyn, gan nodi ei bod yn pryderu nad oes dealltwriaeth eang yn eu cylch ar hyn o bryd.  Mae angen i'r sector gwirfoddol chwarae rhan fwy.

 

Ar y pwynt hwn, cadarnhaodd Jane Dodds fod Llywodraeth y Blaid Lafur yn gwneud llawer o waith yn y maes hwn. Bydd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, yn bresennol yn y cyfarfod nesaf ym mis Ionawr. Felly, anogodd Jane aelodau’r grŵp i feddwl am gwestiynau ymlaen llaw, gan nodi y dylid cofnodi’r cyfarfod hwnnw.

 

Cwestiwn –

Jane Dodds: Beth yw eich gweledigaeth ynglŷn â chydweithio’n agosach â’r grŵp trawsbleidiol hwn ac aelodau’r sector gwirfoddol sy’n rhan ohono?

 

Cadarnhaodd Rocio y byddai'n awyddus iawn i gydweithio'n agosach â’r grŵp, yn enwedig mewn perthynas â’i phrif faes blaenoriaeth, sef tlodi plant.  Cytunodd i drafod y mater hwn ymhellach â’i Thîm Polisi.

 

Mae hi hefyd o’r farn bod y sector gwirfoddol yn adnodd enfawr y mae angen ei ystyried mewn cyd-destun ehangach, ac y bydd llinellau cyfathrebu gwell yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol.  Mae hwn yn fater y bydd hi a’i thimau yn ei ystyried.

 

Diolchodd Jane Dodds i Rocio am ddod i’r cyfarfod a rhoi o’i hamser i ateb cwestiynau. Dywedodd fod croeso iddi ddod i gyfarfodydd y grŵp trawsbleidiol yn y dyfodol.

 

 

4.      Unrhyw fater arall

 

Dim

 

 

5.      Dyddiadau’r cyfarfodydd nesaf

 

17 Ionawr 2023, rhwng 10:30 a 11:30 – cyfarfod hybrid – ystafell yn Nhŷ Hywel ac ar-lein.  Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud cyflwyniad ar wasanaethau ar ffiniau gofal

 

7 Mehefin 2023, rhwng 10:30 a 11:30

 

27 Medi 2023, rhwng 10:30 a 11:30


29 Tachwedd 2023, rhwng 10:30 a 11:30

 

Diolchodd Jane Dodds i bawb am roi o’u hamser i ddod i’r cyfarfod, a dymunodd Nadolig Llawen i aelodau'r grŵp!